Yn ôl i'r holl ddigwyddiadau
Ymunwch â Grŵp Natur Seiriol a’r arbenigwr ffyngau Charles Aron ar Chwiliad Ffwngaidd yng nghoetiroedd Aberlleiniog.
Addas ar gyfer pob grŵp oedran. Gwisgwch esgidiau a dillad addas.
Byddwn yn treulio amser yn casglu samplau o ffwng, a byddwn yn eu dwyn yn ôl i Neuadd Bentref Llangoed i’w hadnabod a’u rhoi ar wefan COFNOD.
Dydd Sul 14eg Medi, 1:30pm
Cyfarfod ym Maes Parcio Neuadd Bentref Llangoed.
Digwyddiad cymunedol am ddim.
Diolch i Gyngor Cymuned Llangoed a Phenmon am eu cefnogaeth