Yn ôl i'r holl ddigwyddiadau

Cyngor ar Bopeth + Gwreiddiau Môn Roots

Ymunwch â ni yn Neuadd Bentref Llangoed am gymorth cyfrinachol ac am ddim!

Mae'r ddau sefydliad lleol gwych hyn yn ymweld â'r neuadd ar drydydd dydd Gwener bob mis rhwng 9:30 - 11:00am.

Mae Cyngor ar Bopeth yn rhwydwaith o elusennau sy'n darparu cyngor cyfrinachol, a diduedd am ddim i unrhyw un sydd ei angen, ar ystod eang o faterion. Maent yn helpu pobl sydd â phroblemau fel dyled, budd-daliadau, tai, cyflogaeth a hawliau defnyddwyr.

Bydd prosiect Gwreiddiau Mon Roots yn darparu ystod o wasanaethau ochr yn ochr â'i bartneriaid sy'n anelu at atal digartrefedd, ac ymdrin â'r stigma a'r rhagfarn y mae pobl ddigartref yn eu hwynebu.

Blaenorol
Blaenorol
10 Hydref

Tân Cariad / Ffracsiwn Gwag yn Sinema Llangoed

Nesaf
Nesaf
17 Hydref

Bws y Llyfrgell