Mae'r digwyddiadau hyn wedi eu hariannu trwy Balchder Bro Môn, sydd wedi’i ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, gyda chefnogaeth ariannol hefyd gan y Gwasanaethau Adfer Niwclear (NRS) ar ran yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear (NDA).
Bydd polyn baner yn Neuadd Bentref Llangoed unwaith eto! Gyda chymorth gan brosiect Balchder Bro, byddwn yn dylunio baneri i gynrychioli ein cymuned, dathlu digwyddiadau arbennig a chreu bwrlwm gweledol o amgylch ein neuadd bentref leol sy’n 114 oed.
Bydd y polyn baner yn cael ei lansio gyda chyfres o ddeg baner wedi'u hargraffu'n arbennig.
A ydych chi'n chwilfrydig am ddylunio graffeg? A ydych chi'n meddwl tybed sut mae logos, baneri, posteri a graffeg ar gyfryngau cymdeithasol wedi'u dylunio? A hoffech chi roi cynnig ar ddylunio baner?
Byddwn yn cynnal gweithdy dylunio am ddim yn Neuadd Bentref Llangoed gyda'r artist a'r dylunydd Ffion Pritchard.
Sesiynau galw heibio rhwng 10-2pm.
Cinio ysgafn ar gael – cawl a bara am ddim
➯ Galwad Agored Dylunio Baner
Prosiect o Brosiectau Plas Bodfa yw Flags Flying in Llangoed.