Mae'r digwyddiadau hyn wedi eu hariannu trwy Balchder Bro Môn, sydd wedi’i ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, gyda chefnogaeth ariannol hefyd gan y Gwasanaethau Adfer Niwclear (NRS) ar ran yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear (NDA).
Mae polyn fflag yn Neuadd Bentref Llangoed unwaith eto! Gyda chefnogaeth gan brosiect Balchder Bro, rydym wedi dylunio baneri i gynrychioli ein cymuned, dathlu digwyddiadau arbennig a chreu bwrlwm gweledol o amgylch ein man ymgynnull neuadd bentref lleol 114 oed.
Bydd y polyn fflag yn cael ei lansio gyda chyfres o unarddeg o fflagiau wedi’u hargraffu’n arbennig gan fyfyrwyr Ysgol Gynradd Llangoed, grwpiau cymunedol – gan gynnwys SyM Llangoed a Neuadd Bentref Llangoed ac unigolion creadigol o bell ac agos – Anita Molhotra, Ceyda Ozkay, Dawn Naylor, Rhodri Robers a Susie Wright.
Dewch i weld ein baneri yn hedfan!
Prosiect o Brosiectau Plas Bodfa yw Flags Flying in Llangoed.