Mae bardd ifanc o ogledd Cymru yn cystadlu o dan ei enw barddol Hedd Wyn am y Gadair, gwobr fwyaf chwenychedig yr Eisteddfod Genedlaethol, ond cyn cyhoeddi’r enillydd caiff ei anfon i ymladd yn ffosydd y Rhyfel Byd Cyntaf.
Biopic gwrth-ryfel Cymraeg 1992 yw Hedd Wyn , a ysgrifennwyd gan Alan Llwyd a'i gyfarwyddo gan Paul Turner, gyda Huw Garmon yn serennu fel Hedd Wyn.
Mae’r sinematograffi gwych sy’n gwrthgyferbynnu’n llwyr harddwch ei gartref ym Meirionnydd ag erchyllterau Passchendaele yn dangos oferedd rhyfel yn hon, y ffilm gyntaf o Gymru i gael ei henwebu fel y ffilm Iaith Dramor Orau yng Ngwobrau’r Academi Americanaidd.
Dydd Iau 24 Ebrill, 2025 drysau 7:00pm ffilm 7:30pm lluniaeth ar gael bar agored