Yn ôl i'r holl ddigwyddiadau

Sesiwn Wybodaeth Cronfa'r Celfyddydau Trochi

Ymunwch â chynhyrchwyr y Immersive Arts Fund , am sesiwn wybodaeth ymarferol sy'n archwilio sut y gall technolegau trochi fel VR, AR, a sain trochi agor posibiliadau creadigol newydd ar gyfer eich ymarfer celf.

Yn ystod y sesiwn 3 awr hon, byddwch yn cael cipolwg ar y rhaglen Celfyddydau Trochi a dysgu am gyfleoedd ariannu, astudiaethau achos creadigol, a chael cyfle i roi cynnig ar dechnolegau trochi eich hun.

Beth i'w Ddisgwyl:

  • Trosolwg o'r Rhaglen Celfyddydau Trochi a'r meysydd ariannu

  • Profiad Ymarferol: Sinema VR, AR a ffilm

  • Cyfle i sgwrsio ag artistiaid eraill

  • Cinio, coffi a byrbrydau.

Ar gyfer pwy mae hwn? Artistiaid, cydweithfeydd, neu ymarferwyr creadigol sy'n chwilfrydig am ymgorffori technolegau trochi yn eu hymarfer.

I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen ewch i immersivearts.uk a chyrchwch y Porth Ceisiadau yma .

Nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael - felly ebostiwch julie@plasbodfa.com neu lisa.heleddjones@wmc.org.uk
i archebu eich lle a rhoi gwybod i ni am unrhyw ddewisiadau dietegol. Edrychwn ymlaen at eich gweld!

  • Dyddiad: 4 Tachwedd 2024

  • Lleoliad Neuadd Bentref Llangoed, Ynys Môn, LL58 8NY

  • Amser: 11:30 am - 2:30 pm (yn cynnwys cinio)

Blaenorol
Blaenorol
31 Hydref

Parti Calan Gaeaf

Nesaf
Nesaf
15 Tachwedd

Bopeth