Yn ôl i'r holl ddigwyddiadau
Mae Medrwn Môn yn gweithio gydag ITP i gynnal astudiaeth dichonoldeb i ddeall yn well anghenion trafnidiaeth sawl cymuned ar yr Ynys, ac i ddatblygu atebion posibl ar gyfer mynd i'r afael â'r anghenion hyn.
Ymunwch â ni am sesiwn yn Neuadd Bentref Llangoed
Ymgysylltu â chymunedau i ddeall eu hanghenion yn llawn.
Asesu'r galw tebygol am unrhyw wasanaethau posibl.
Nodi atebion ymarferol y gellir eu rhoi i gymunedau i fesur diddordeb.
Datblygu camau gweithredu angenrheidiol i fwrw ymlaen â’r opsiynau trafnidiaeth mwyaf addawol a mwyaf cefnogol.