Llewyrchwch Olau yn Llangoed y tymor Adfent hwn.
Y cyfan sydd raid i chi ei wneud yw creu arddangosfa â thema Nadolig yn eich ffenestr neu'ch gardd , wedi'i phweru gan yr haul os yn bosibl a chan gynnwys neges Cariad, gobaith neu Lawenydd y gall eraill ei gweld o'r ffordd neu'r palmant y tu allan i galonogi pobl sy'n mynd heibio - ni fydd yn cynnwys gwahodd pobl i'ch cartref neu'ch gardd.
Rydym yn gobeithio trefnu taith gerdded i Haulfre gan gyrraedd tua 10.30 ar y 13eg o Ragfyr i weld yr arddangosfeydd a bydd gwobr am yr arddangosfa orau / fwyaf dychmygus.
Ymunwch â ni i ledaenu rhywfaint o gariad, gobaith a llawenydd yn ystod y Nadolig eleni gydag arddangosfa oleuadau – solar os yn bosibl
O 29 Tachwedd ymlaen hyd at y digwyddiad Caffi Carolau prynhawn traddodiadol bellach yn neuadd bentref Llangoed ddydd Sul 13 Rhagfyr, rydym yn gobeithio y byddwch yn helpu i greu llwybr o olau a gobaith o Bont y Brenin i neuadd y pentref i lawr y briffordd neu'r ffordd gefn trwy'r ysgol.
Os hoffech chi daflu goleuni ar yr Adfent hwn i'r Nadolig, anfonwch neges at Wendy Davies am ragor o wybodaeth naill ai drwy neges destun neu WhatsApp – 07794 455796.