Yn ôl i'r holl ddigwyddiadau
Roeddem yn falch o gyflwyno 'STRIKE - AN UNCIVIL WAR', ffilm ddogfen sy'n adrodd hanes Brwydr Orgreave, y gwrthdaro rhwng glowyr a'r heddlu yn ystod Streic y Glowyr 1984. Drysau'n agor o 19:00
Ffilm yn dechrau am 19:30
Mae gwerthiant tocynnau ar-lein wedi dod i ben.
Tocynnau £5 wrth y drws.
Streic y Glowyr 1984/85 oedd yr anghydfod diwydiannol mwyaf ymrannol a threisgar a welodd Prydain erioed. Gyda thystiolaeth bersonol, dogfennau cudd y llywodraeth ac archif nas gwelwyd o'r blaen, mae STRIKE yn adrodd hanes Brwydr Orgreave.
Ar ôl y ffilm, bydd sesiwn holi ac ateb gyda Morag Livingstone, gwneuthurwr ffilmiau a newyddiadurwr.