Gwerthu Ar-lein wedi dod i ben - bydd rhai tocynnau ar y drws - welai chi yno!
'Grasping the Danadl' sydd wrth wraidd y stori hon. Mae her gwneud dillad di-garbon yn golygu ailddysgu crefftau hynafol: chwilota, prosesu, nyddu, gwehyddu, torri a gwnïo.
Mae gwneud gwisg fel hyn yn dod yn ddefosiynol ac iach.
Dywed y cyfarwyddwr Dylan Howitt: 'Mae hon yn stori am werth dwfn creadigrwydd a dychymyg, a chrefft araf, ystyriol sy'n cyd-fynd yn well â byd natur.'
Mae'r ffrog yn cynnwys 14,400 troedfedd o edau, pob un yn cynrychioli oriau o sylw cariadus. Yn y ffilm mae'r ffrog yn cael ei gwisgo o'r diwedd yn y goedwig lle dewiswyd y danadl poethion, gan Oonagh, un o ferched Allan.
Ymunwch â ni ar gyfer The Nettle Dress, rhaglen ddogfen nodwedd sy’n dilyn yr artist tecstilau Allan Brown sy’n treulio saith mlynedd yn gwneud ffrog â llaw, gan ddefnyddio dim ond ffibr o ddanadl poethion sydd wedi’u hel yn lleol.
Stori ffrog wedi'i gweu o drasiedi, hud a chariad.
Dyma 'hedgerow couture', y mwyaf gwyrdd o ffasiwn araf a hefyd ei feddyginiaeth. Dyma sut mae'n goroesi marwolaeth ei wraig Alex a sut mae'n dod o hyd i ffordd hardd i'w hanrhydeddu.
Dydd Iau 20 Mawrth, 2025
drysau 7:00pm
ffilm 7:30pm
tocynnau £5
lluniaeth ar gael
bar agored