Cerddoriaeth Fyw a Pherfformiad
Mae'r Neuadd yn cynnwys llwyfan gyda chyfarpar goleuo a system sain, gyda digon o le dawnsio ar gyfer bandiau, ein nosweithiau DJ/VJ, dawnsio ceilidh ac unrhyw fath o berfformiad byw. Rydym hefyd yn cynnal digwyddiadau theatr, cerddoriaeth a chelfyddydau perfformio Noson Allan yn rheolaidd, gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Sir Ynys Môn.